SL(6)495 – Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru: Cod Ymarfer

Cefndir a diben

Mae’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru: Cod Ymarfer (“y Cod”) yn nodi egwyddorion a safonau ar gyfer comisiynu gofal a chymorth gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG, y cyfeirir atynt yn y Cod fel “partneriaid statudol”.

Gosodwyd y Cod gerbron y Senedd yn wreiddiol ar 19 Mawrth 2024 cyn cael ei dynnu’n ôl ar 18 Ebrill 2024 i fynd i’r afael â gwallau a nodwyd yn y drafft.

Y weithdrefn

Drafft Negyddol

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Cod gerbron y Senedd. Os, o fewn 40 diwrnod (ac eithrio diwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y gosodir y drafft, bydd y Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r Cod.

Os na wneir penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft), a daw’r Cod i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r Cod hwn.

1.     Gall y materion canlynol o ran cyfeiriadau gael effaith ar hygyrchedd y Cod:

a.     Ym mharagraff 1.19, mae cyfeiriad at “Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru)”. Mae'r cyfeiriad hwn yn anghyflawn gan na roddir blwyddyn.

b.    Ym mharagraff 1.65, nid oes troednodyn na hyperlinc ar gyfer y cyfeiriad at Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

c.     Ym mharagraff 1.94, nid oes troednodyn na hyperlinc ar gyfer y cyfeiriad at yr adnodd hunanasesu a hyfforddiant rhagarweiniol.

d.    Yn yr Eirfa, mae paragraff olaf y cofnod ar gyfer “Gofalwr” yn cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel “Deddf 2014” yn hytrach na defnyddio’r term diffiniedig “y Ddeddf” (a ddefnyddir yn gywir mewn paragraffau cynharach yn y cofnod hwn).

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 1 Gorffennaf 2024 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd uchod.